Hafan > Amdanom

Amdanom

Cwmni nid er elw yw Menter Iaith Gwynedd wedi ei sefydlu yn haf 2023 i hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Mae’r fenter wedi egino o ‘Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd’, sef y fenter oedd yn bodoli cyn 2023 ac a oedd yn rhan o Gyngor Gwynedd.

Y Tîm

Mae gan Menter Iaith Gwynedd 4 aelod yn y tîm:

Iwan Hywel

Iwan Hywel (Pwal)

Prif Swyddog y Fenter

Wedi ei fagu yn Llangernyw mae Iwan yn byw yn Tregarth gyda’i wraig a thri o blant. Ymunodd Iwan fel pen swyddog yn 2022, hynny yn dilyn sawl blwyddyn fel arweinydd tîm i Mentrau Iaith Cymru, cyn hynny bu’n gynghorydd gyrfa i Gyrfa Cymru.

Chwaraeon, yn enwedig rygbi a phêl-droed, a gwersylla ym Mhen Llŷn, yw ei hoff bethau.

Meirion Owen

Meirion Owen (Mei)

Swyddog Datblygu Menter Iaith Bangor

Mae Mei wedi bod yn gweithio i Menter Iaith Gwynedd, yn benodol i Menter Iaith Bangor sydd yn cynnwys ardaloedd Ogwen a Felinheli, ers mis Tachwedd 2020. Gweithiodd cyn hynny yn y maes iechyd a lles, yn gweithio efo bobl hyn yng Nghonwy, a chyn hynny yn athro cymwysedig i blant cynradd ardal Conwy.

Yn enedigol o Fangor mae Mei wedi dod yn ôl i hybu’r iaith yn y ddinas, meddai Mei: “mae’n dipyn o her gan fod hen arferion yn anodd i’w newid ond de ni yn gweld newid ble mae pobl efo agweddau mwy cadarnhaol at y Gymraeg”. Mae Mei yn mwynhau jocian a chael pobl i chwerthin, bod yn weithgar yn ei gymuned a bod yn dacsi dyddiol i’r plant!

Ifan Llewelyn Jones yn y mynyddoedd

Ifan Llewelyn Jones

Swyddog Datblygu Iaith

Mae Ifan wedi bod yn gweithio hefo Menter Iaith Gwynedd, a Hunaniaith cyn hynny, ers 2012. Cychwynnodd weithio ym maes hyrwyddo’r Gymraeg ugain mlynedd ynghynt,  cyn symud i wahanol swyddi ym maes adfywio a datblygu cymunedol. Mae’n dod yn wreiddiol o Groesor a rŵan yn byw yng Nghaernarfon. 

Pan fydd o ddim yn gweithio mae o’n hoffi treulio amser hefo’i bartner a’i deulu, coginio, mynydda a theithio yng Nghymru, yr Alban a thramor.

Osian Rhys Roberts

Osian Rhys Roberts

Swyddog Datblygu Iaith - Meirionnydd

Daw Osian o Lanystumdwy yn wreiddiol a bellach yn byw yn Llanfrothen. Gweithiodd Osian i’r Urdd cyn dod i weithio fel Swyddog Datblygu ardal Meirionydd yn haf 2024.

Prif ddiddordeb Osian yw cerddoriaeth, yn ddrymiwr penigamp, creda’n gryf bod cerddoriaeth yn gallu cael ei ddefnyddio i dynnu pobl at, a defnyddio mwy, o’r Gymraeg.

Bwrdd Rheoli Menter Iaith Gwynedd

Ers Hydref 2025 dyma aelodau Bwrdd Rheoli Menter Iaith Gwynedd:

Anthea Fowler

Anthea Fowler

Anthea dwi. Dwi'n byw yng Ngogledd Cymru efo fy nghwr a dau gi defaid, Monti a Mali. Siaradwr Cymraeg newydd dwi. Dwi'n dysgu ar-lein efo Prif ysgol Bangor ers 2021. Fel gwaith, dwi'n gweithio yn y drydedd sector fel cyfrifydd ers 2007.

Yn fy amser sbâr, dwi'n licio gwneud mwy o waith! Dwi'n eistedd ar bwyllgor Tafarn y Plu (tafarn cymunedol ) a dwi'n rhoi cymorth cyfrifon i elusen, Refugee Community Kitchen. Dwi'n edrych ymlaen at annog siaradwyr newydd eraill cael y gorau o ddefnyddio eu Cymraeg yn y gymuned.

Eleri Hughes-Jones

Eleri Hughes-Jones

Mae Eleri yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol, ac yn byw erbyn hyn yn Waunfawr gyda’i theulu.

Graddiodd mewn Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi cyfnod yn gweithio yng Nghyngor Gwynedd a’r papur newydd Herald, cychwynnodd ar yrfa ym maes yr iaith Gymraeg fel Cyfieithydd yn Ysbyty Gwynedd.

Bellach Eleri yw Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn gyfrifol am wasanaethau cyfieithu, hyfforddiant y Gymraeg, cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol, yn ogystal â hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sefydliad.

Mae ganddi M.A. mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol, a hefyd Diploma mewn rheoli ac arweinyddiaeth.

Manon Cadwaladr

Manon Cadwaladr

Mae Manon yn un o aelodau bwrdd gwreiddiol Menter Iaith Gwynedd. Cafodd ei magu yn Ynys Môn cyn mynd i'r brifysgol yn Aberystwyth, a bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i theulu.

Mae Manon yn un o gyfarwyddwyr cwmni cyfieithu Cymen ac ar hyn o bryd yn gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mared Llywelyn

Mared Llywelyn

Daw Mared o Forfa Nefyn, ac wedi cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth daeth yn ôl i Lŷn i fyw, gweithio a mwynhau.

Mae’n gweithio fel Swyddog Addysg a Gwirfoddoli yng nghanolfan dreftadaeth Plas Carmel, Anelog ym mhendraw Llŷn. Yn ddramodydd, llenor ac actor, mae hi hefyd yn arwain sesiynau creadigol i blant ac oedolion. 

Ynghŷd a’i gwaith diweddar mae Croendena (dramodydd) y ddrama tairieithog mewn Taigh/Tŷ/Teach (dramodydd) a Parti Priodas (actor).

Mae’n aelod Bwrdd Nant Gwrtheyrn, is-gadeirydd ar Fwrdd Cwmni Theatr Bara Caws, is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Morfa Nefyn, ac yn Gadeirydd Cyngor Tref Nefyn.

Bu’n ymgyrchu’n frwd gyda Hawl i Fyw Adra. Hi hefyd yw golygydd Y Tafod, cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith.

Rhian Hodges

Rhian Hodges

Dw i'n gweithio o ddydd i ddydd yn darlithio ym maes Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ac yn benodol polisi a chynllunio ieithyddol ym Mhrifysgol Bangor ers 2009 bellach. Rwy'n ymchwilio i ddefnydd o'r Gymraeg ym mywydau bob dydd unigolion ac rwyf yn ymddiddori ym maes siaradwyr newydd y Gymraeg ac addysg Gymraeg hefyd. Mae astudio'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn bwysig iawn i mi ac rwy'n credu'n gryf yng ngwaith pwysig y mentrau iaith. Ar hyn o bryd, rwy'n aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymru (2il Gam) ac yn un o gyfarwyddwyr Menter Iaith Bangor.

Rwy'n byw gyda fy nheulu ym Mangor ond dal i ymweld a Chwm Rhymni yn aml (dw i'n dala 'mlaen i fy acen mor belled!) Rwy'n dwli ar chwaraeon o bob math ac yn hoffi gwylio Cymru'n chwarae pêl-droed pan mae'n bosib. Rwy'n hoff iawn o deithio ac yn ymweld a Gwlad y Basg yn gyson - am le ac am ysbrydoliaeth! 

Rhys Glyn

Rhys Glyn

Rwy’n gyn- bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Cyngor Gwynedd ac yn rhinwedd y swydd honno wedi cydweithio â swyddogion y Cyngor a’r Fenter ynghŷd â Chynghorwyr Gwynedd i ddatblygu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y Sir.

Bellach wedi ymddeol rwyf yn mwynhau  treulio amser yn gwarchod fy ŵyr bach ac yn mwynhau mynychu sesiynnau Ti a Fi,Stori Cân a Chrefft yn y Llyfrgell yn ogystal â sesiwn Swigod yn y Pwll Nofio. Mae darparu cyfleoedd cyfoethog i’n plant a’n pobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol i sicrhau eu bod yn cael defnyddio’r iaith yn naturiol o fewn eu cymunedau!

Mae’n fraint i mi gael bod yn un o Gyfarwyddwyr ar Fwrdd Menter Iaith Gwynedd i graffu a chefnogi gwaith y Fenter i’r dyfodol!

Siôn Hughes

Siôn Hughes

Siôn ydi Cyfarwyddwr Polisi a Chyflawni cymdeithas dai Adra (Tai) Cyfyngedig, cymdeithas dai sydd yn rheoli 7,500 o dai ar draws Gwynedd a gogledd Cymru, ac yn cyflogi 400 o staff. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain a rheoli pob elfen o waith Adra fel aelod o Dîm Cyfarwyddwyr Adra. Yn gyfrifol yn ei swydd bresennol am ystod o weithgareddau yn cynnwys arweiniad strategol a Chynllun Corfforaethol Adra; perfformiad a risg; rheoli rhaglenni a phrosiectau corfforaethol.

Mae’n aelod o Lywodraethwyr Ysgol y Gorlan, Tremadog ers 5 mlynedd ac yn gadeirydd presennol ar y corff. Hefyd yn aelod o fwrdd Cyngor ar Bopeth Gwynedd ers 4 mlynedd. 

Yn briod hefo Anna, ac yn dad i Elain ac Iwan sydd yn mynychu Ysgol Eifionydd. 

Yn ei amser hamdden, mae Siôn yn gweithio ar fferm y teulu yn Glanyrafon; yn dilyn pob math o chwaraeon ac yn mwynhau cymdeithasu. 

Mae Siôn yn awyddus i gyfrannu at waith Menter Iaith Gwynedd mewn ffordd bositif; ac i fod yn aelod Bwrdd cydweithredol; strategol a chytbwys.