Hafan > Ein Gwaith

Dysgwyr

Adnoddau i Ddysgwyr a Siaradwyr Newydd

Sut Mae Mynd Ati i Ddysgu Cymraeg

Mae iaith yn fwy na dim ond geiriau. Mae’n ddealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, hiwmor, cymuned, a’r syniad o le a pherthyn. Mae dysgu iaith newydd yn rhoi mynediad i fwy o bobl, mwy o gyfleoedd, a mwy o safbwyntiau, ac mae dysgu Cymraeg yn awr yn haws nag erioed.
 

Cyn i chi ddechrau, ystyriwch:

1 - Arddull ddysgu - Mae pawb yn dysgu mewn ffordd wahanol. Dewiswch ddull sy’n addas i chi.

2 - Ffordd o fyw - Sefydlwch gynllun dysgu sy’n cyd-fynd â’ch amser rhydd a’ch ffordd o fyw.

3 - Ffocws - Dechreuwch drwy ddysgu geiriau a brawddegau sy’n berthnasol i’ch bywyd, eich diddordebau, a’ch anghenion chi.

4 - Dechrau - Defnyddiwch eiriau a brawddegau newydd ar unwaith; does dim angen i chi fod yn rhugl i ddechrau siarad iaith. Dechreuwch gydag un gair ar y tro.

5 - Pam? - Gall rheswm clir a deniadol dros ddysgu ddarparu cymhelliant a phwrpas, gan gynnal eich cynnydd trwy gyfnodau mwy heriol.
 

Isod mae rhestr o wahanol ffynhonellau dysgu i’ch helpu ar ddechrau eich taith.

Cyfunwch rai o’r rhain i weld y cynnydd mwyaf yn eich dysgu.
 

  • Dysgu Cymraeg – Gwasanaeth sy’n cynnig amrywiaeth o wersi Cymraeg, ffurfiol.

  • Nant Gwrtheyrn – Canolfan sy’n cynnig gwersi Cymraeg a chyrsiau preswyl.

  • Say Something In Welsh – Gwefan sy’n cynnig adnoddau i ddysgu Cymraeg.

  • We learn Welsh - Gwefan sy’n cynnig adnoddau i ddysgu Cymraeg.

  • Doctor Cymraeg - Gwefan sy’n cynnig adnoddau i ddysgu Cymraeg.

  • Beth Yw'r Gair Cymraeg Am...? – Adnodd gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda geirfa Cymraeg.

  • Welsh Plus – Sianel Youtube sy’n dysgu sut i ynganu llythrennau a geiriau Cymraeg.

  • Helo Blod – Gwasanaeth cyfiaethu professiynnol am ddim.

  • Duolingo – ‘App’ poblogaidd sy’n cynnig gemau hwylus i ddysgu geirfa a gramadeg.

  • Gweithgareddau i Gefnogi Dysgwyr – Rhestr o wiethgareddau i ddysgwyr yng Ngwynedd.

  • Hwb Cymraeg Dwyfor – Tudalen sy’n hysbysebu cyfleon i ymarfer eich Cymraeg yn Nwyfor.

  • S4C – Sianel deledu gwbwl Gymraeg sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni.

  • BBC Radio Cymru – Sianel Radio gwbwl Gymraeg sy’n cynnig rhagleni a cherddoriaeth amrywiol.

  • Spotify – ‘App’ cerddoriaeth poblogaidd gyda rhestrau chwarae amrywiol Cymraeg.